Mae Rhwydwaith Selkie yn rhwydwaith trawsffiniol rhwng Iwerddon a Chymru o fusnesau bach a chanolig ynni morol a chwmnïau cadwyn gyflenwi.
Nod Selkie yw darparu cymorth busnes anwygol i 150 o fusnesau bach a chanolig ledled Cymru ac Iwerddon drwy ein rhwydwaith cymorth busnes Selkie.
P'un a ydych yn gweithio yn y diwydiant ynni morol ar hyn o bryd, neu'n bwriadu arallgyfeirio, rydym yn gwahodd busnesau ledled Cymru ac Iwerddon i ddod yn rhan o'n rhwydwaith trawsffiniol am ddim ac ymuno ag ystod amrywiol o fusnesau sy'n cael cymorth yn y diwydiant.
Sut allwch chi elwa?
- Hyfforddiant llawn ar gyfer defnyddio offer Selkie
- Mynediad i weithdai a gweminarau ar bynciau allweddol y diwydiant
- Cymorth ar gyfer profi a datblygu cynhyrchion newydd
- Mynediad at gynnal dadansoddi a modelu data
- Trosglwyddo gwybodaeth gan arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant ac arbenigwyr academaidd
- Cymorth gyda chynllunio busnes a pharatoi grantiau ymchwil a datblygu
- Cyfleoedd rhwydweithio i feithrin cysylltiadau mewn diwydiant sy'n tyfu'n gyflym
Ymunwch â'n rhwydwaith sy'n tyfu! Cysylltwch â'r iannewton@mentermon.com i gael rhagor o fanylion am ymuno â Rhwydwaith Selkie.
Dysgwch fwy am rwydwaith SELKIE drwy wylio'r cyflwyniad i'r fideo rhwydwaith ar ein tudalen yma